Woodland Trust

Nature DetectivesNature's Calendar

NEW - spring downloads. 100 spotter sheets, play ideas, games, puzzles and art sheets - dive in now!

Cof Coeden

This is an interactive online resource  LLWYTHO I LAWR

Yn y gweithgaredd hwn mae disgyblion Blynyddoedd 2-6 yn ystyried newidiadau dros amser trwy ‘lygaid’ tair coeden o wahanol oedran sy’n tyfu mewn gwahanol ardaloedd.
 

Cof coeden

Mae’r disgyblion yn
cwrdd â’r tair coeden
 

Cof coeden

Maen nhw’n sgrolio ar hyd
llinellau amser bywydau’r coed
 

Cof coeden

ac yn ceisio llenwi’r bylchau
gydag awgrymiadau aml-ddewis

Cof  coeden

Ar ôl nodi’r ateb cywir maent
yn cael mwy o wybodaeth
am y digwyddiad
 

Beth mae’r disgyblion yn ei wneud?

Trwy drefnu delweddau o gof y coed ar hyd llinell amser gall y disgyblion ddysgu mwy am y newidiadau y mae’r coed wedi’u gweld.

Bu’r Goeden Hynafol yn byw mewn coedwig fawr ers dros 500 mlynedd. Yn ystod ei bywyd bu llawer o ddigwyddiadau pwysig mewn hanes.  Fe’u hawgrymir ar gyfer ystod 9-11 oed.

Bu’r Goeden Ddinesig yn byw yn y ddinas ers 50 mlynedd.  Gwelodd lawer o newidiadau diweddar.  Fe’i hawgrymir ar gyfer ystod oedran 8-10 oed.

Gan ddefnyddio’r lluniau yn llinell amser y Goeden Wledig, gall y disgyblion edrych ar thema newidiadau tymhorol.  Fe’i hawgrymir ar gyfer ystod 6-8 oed.
Gellir gosod pob un o’r tri gweithgaredd ar wahanol lefelau, sy’n gofyn i’r disgbylion drefnu o ddau i wyth delwedd.  Gellir defnyddio pob un, felly, gyda phlant o wahanol allu ac ar achlysuron niferus.  Mae’r gweithgareddau’n addas i unigolion, parau neu grwpiau.