Woodland Trust

Nature DetectivesNature's Calendar

Tons of free downloads and activity ideas for National Science & Engineering Week, 12-21 March

Coed y Draig

This is an interactive online resource  LLWYTHO I LAWR

Profiad rhyngweithiol cyffrous yw Coed y Ddraig, i ddisgyblion rhwng pedair a saith mlwydd oed. Mae disgyblion yn mynd ar daith, fel petai, trwy goetir conwydd a brasddeiliog ac yn cwrdd â llawer o’r creaduriaid sy’n byw yna. Defnydd dwyieithog yw hwn, lle gallwch chi symud rhwng y fersiynau Saesneg a Chymraeg ar unrhyw adeg trwy glicio ar eiconau’r baneri.

 

Coed y Ddraig

Fe fydd disgyblion yn dewis
taith trwy Goed y Ddraig...
 
 

Coed y Ddraig

...Fe fyddan nhw’n tynnu lluniau
o bethau o ddiddordeb...
 
 

Coed y Ddraig

...Fe fyddan nhw’n cael rhagor
o wybodaeth am yr hyn y
maen nhw wedi cael hyd iddo...
 

Coed y Ddraig

...Fe fydd cwestiynau ar ddiwedd
y daith yn profi faint y mae’r
plant wedi’i ddeall a chofio.
 

Beth y dylai disgyblion wneud?
Mae disgyblion yn symud o gwmpas y ddwy goedlan gan ddefnyddio camera i dynnu lluniau o bethau o ddiddordeb. Ar ôl tynnu pob llun, mae ffotograff go iawn yn ymddangos, ynghyd â rhagor o wybodaeth am yr hyn a welwyd.
Mae’r teithiau trwy’r coedlannau wedi’u marcio gyda lliwiau gwahanol, gyda’r un glas yn defnyddio’r iaith hawsaf, yr un gwyrdd yn defnyddio iaith cymharol hawdd, a’r un melyn yn defnyddio’r iaith anoddaf. Dyma restr bopeth sydd i’w weld ar y gwahanol deithiau.

Ar ôl ymweld â’r ddwy goedlan, gofynnir cwestiynau amlddewis i brofi faint o’r testun y mae’r disgyblion wedi deall a chofio.

Mae’r defnydd yma’n gweithio’n dda fel rhan o becyn TGCh ar gyfer ymchwiliad personol a darganfyddiad, neu fe ellir ei ddefnyddio fel profiad ar gyfer nifer o ddisgyblion ar y cyd, a hynny trwy ddefnyddio bwrdd gwyn rhyngweithio. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os oes yna rhai yn y dosbarth sydd yn methu darllen. Mae hwn yn ffordd wych i baratoi ar gyfer ymweliad â choedlan go iawn.

Angen rhagor o gymorth?
Am ragor o help, cliciwch yr eicon “i” wrth waelod y scrîn, ar y chwith, ar unrhyw adeg.